Llun: Pixabay CC0
Mae troseddwyr ifanc yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol er mwyn cynllwynio ac i annog troseddau, yn ôl corff craffu.

Yn ôl adroddiad gan Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi, mae troseddau bellach yn cael eu trefnu gan blant a phobol ifanc o’u hystafelloedd gwely – yn hytrach nag ar gorneli strydoedd.

Mae’n debyg bod gangiau yn defnyddio gwefannau i annog pobol i ymuno â nhw tra bod nifer yn defnyddio technoleg fodern ar gyfer blacmel ac i fygwth.

O’r 115 achos o drosedd cafodd eu hastudio gan y corff, roedd chwarter ohonyn nhw yn gysylltiedig â defnydd o gyfryngau cymdeithasol.

Sefyllfa “newydd”

“Mae hyn yn beth newydd,” meddai’r Fonesig Glenys Stacey, Prif Arolygydd Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi.

“Mae llawer o’r bobol ifanc yma yn cefnu ar Facebook a gwefannau eraill, ac yn ffafrio safleoedd llai hysbys a mwy preifat.

“Bellach mae cyfryngau cymdeithasol yn cael eu defnyddio i annog a threfnu troseddau. Doedden ni methu dychmygu’r fath sefyllfa ychydig o flynyddoedd yn ôl.”