Andrew RT Davies, (Llun: Ceidwadwyr Cymreig)
Mae’n bosib bydd gwariant ar Ardaloedd Menter yn arwain at y “gwastraff mwyaf erioed o arian cyhoeddus” yng Nghymru, yn ôl y Ceidwadwyr.

Daw sylw arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, yn sgil cyhoeddiad ystadegau sydd yn amlinellu gwariant ym mhob un o’r ardaloedd yma.

Ers iddyn nhw gael eu sefydlu yn 2012 mae Llywodraeth Cymru wedi gwario  cyfanswm o £221,144,795 ar Ardaloedd Menter gan “greu” neu “ddiogelu” 10,706 swydd.

O ran ardaloedd unigol, mae sawl enghraifft o filoedd yn cael ei wario ar greu swyddi. Yng Nglyn Ebwy cafodd £94.6 miliwn ei wario ar 390 swydd y llynedd – cost o £250,000 am bob swydd, yn ôl y Ceidwadwyr.

“Mae’n bosib mai Ardaloedd Menter Llafur fydd yn achosi’r gwastraff mwyaf erioed o arian cyhoeddus – ers dechrau datganoli,” meddai Andrew RT Davies.

“Mae’n costio miliynau ond does dim llawer wedi’i gyflawni. Mae rhai o’r ardaloedd wedi bod yn drychinebus gan gefnogi dim ond llond llaw o swyddi.”

Newid safbwynt?

Mae safbwynt Andrew RT Davies yn groes i sylwadau gan lefarydd y Ceidwadwyr yn 2011, Nick Ramsay, lle beirniadodd Llafur am beidio â sefydlu’r Ardaloedd Menter.

“Mae gweinidogion Llafur Cymru o hyd yn llusgo’u traed, a hyd yma dydyn nhw ddim wedi cynnig unrhyw gynlluniau ar gyfer Ardaloedd Menter yng Nghymru,” meddai Nick Ramsay.

“Bydd y rhain yn hybu ein heconomi, denu buddsoddiad ac yn creu cyfleoedd am gyflogaeth. Os na fydd gweinidogion Llafur Cymru yn gweithredu ar frys, bydd buddsoddwyr yn dewis sefydlu busnesau newydd yn Lloegr yn lle creu swyddi yng Nghymru.”

“Camarweiniol”

“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyfleu ein ffigurau ni mewn modd camarweiniol,” meddai llefarydd ar ran Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates.

“Mae’r ffigurau cyfan yn cynnwys buddsoddiadau mewn dwsinau o brosiectau isadeiledd ledled Cymru … sydd yn uniongyrchol wedi bod o fudd i fusnesau o fewn yr Ardaloedd.

“Dylai bod y Ceidwadwyr Cymreig yn croesawu’r ffaith bod ein Hardaloedd Menter wedi denu tipyn o fuddsoddiad ac wedi diogelu dros 10,000 o swyddi ers 2012.

“Mae’r Torïaid wedi portreadu llwyddiant yr Ardaloedd Menter mewn modd sinigaidd. Mae’r Ceidwadwyr Cymreig bellach wedi cadarnhau mai nhw yw’r blaid gwrth-fenter.”