Llun: PA
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi heddiw gynllun newydd a fydd yn gwella’r ffordd y mae athrawon cyflenwi yn cefnogi ysgolion.

Mi fydd y cynllun hwn, sy’n werth £2.7 miliwn, ar gael i 15 awdurdod lleol yng Nghymru ar gyfer creu cytundebau cyflenwi newydd mewn 86 o ysgolion.

Ac mae disgwyl y bydd yn fodd o benodi’n llawn amser tua 50 o athrawon sydd newydd raddio i wneud gwaith cyflenwi mewn grwpiau penodol o ysgolion.

Mae wedi dod i fodolaeth yn dilyn awgrymiadau a wnaed ar ddechrau’r flwyddyn gan adroddiad y Tasglu Modeli Gyflenwi, sef y corff a gafodd ei benodi gan Lywodraeth Cymru ym Mehefin 2016 i edrych ar opsiynau ar gyfer athrawon cyflenwi’r dyfodol.

Nod y cynllun yw cynnig cyfle i athrawon sydd ar ddechrau’i gyrfa i ennill profiad ychwanegol yn y dosbarth, ynghyd â sicrhau bod gan ysgolion ddigon o athrawon cyflenwi i droi atyn nhw pan fo angen.

Bod yn “fwy hyblyg ac arloesol.”

Yn ôl Kirsty Williams, Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth Cymru, mae athrawon cyflenwi yn rhan “allweddol a phwysig” o’r gweithlu, ac mae’n gobeithio y bydd y cynllun newydd hwn yn “gwella” sut y mae athrawon cyflenwi yn cael eu cyflogi, rheoli a’u cefnogi.

“Diben y cyllid hwn yw bod yn fwy hyblyg ac arloesol wrth ymateb i absenoldeb athrawon.

“O dan ein cynlluniau, bydd ein hathrawon cyflewni yn cael eu cefnogi yn yr un modd â’n hathrawon parhaol.”

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gobeithio ail-fuddsoddi unrhyw arbedion sy’n deillio o gyllidebau cyflewni ysgolion er mwyn sicrhau mwy o le yn y system i gefnogi ysgolion i reoli eu hanghenion cyflewni, a hynny mewn ffordd mwy hwyl a chynaliadwy.

Mi fydd y cynllun peilot yn cael ei gynnal yn ystod y flwyddyn ariannol hon a’r rhai dilynol.