Llun gwneud o Gylch Haearn Castell y Fflint (Llun: Llywodraeth Cymru)
Roedd Llywodraeth Cymru wedi rhagweld y byddai adeiladu cerflun y ‘Cylch Haearn’ ger Castell y Fflint yn achosi stŵr, yn ôl Plaid Cymru.

Cefnodd gweinidogion ar y cynllun i adeiladu’r cerflun ym mis Medi yn sgil gwrthwynebiad chwyrn gan y cyhoedd a gwleidyddion – arwyddodd dros 6,000 o bobol ddeiseb yn ei herbyn.

Mae enw’r cerflun yn cyfeirio at gyfres o gestyll cafodd eu hadeiladu gan y brenin, Edward y Cyntaf, i ormesu’r Cymry a Chastell y Fflint oedd y cyntaf o’r cestyll yma.

Yn ôl Plaid Cymru mae cais Rhyddid Gwybodaeth wedi datgelu bod gweision sifil wedi tynnu sylw Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, at oblygiadau enw’r castell cyn cymeradwyo’r prosiect.

Mae’n debyg mewn un neges, mae gwas sifil yn rhybuddio y gallai’r cerflun gael ei ystyried yn “ategiad” neu “ddathliad” o ormes Edward y Cyntaf  gan y cyhoedd.

“Creulon ac ansensitif”

“Roedd cynlluniau Llywodraeth Cymru i godi cerflun i ddathlu gormesu Cymru yn greulon ac ansensitif,” meddai llefarydd Plaid Cymru ar yr Economi a Seilwaith, Adam Price.

“Fe wyddai Llywodraeth Cymru y byddai hyn yn cael ei weld fel dathlu ein gormesu, a dywedwyd wrth yr Ysgrifennydd Cabinet am yr adleisiau hanesyddol hyn.

“Nid ‘epig’ oedd hyn o gwbl, ond yn hytrach cywilydd i’r llywodraeth a sarhad ar Gymru. Nid yw’r Ysgrifennydd Cabinet eto wedi ymddiheuro am ei flerwch – gobeithio y gwnaiff hynny yn awr.”

Cydnabod “teimladau cryf”

“Cafodd gwaith celf a cherfluniau’r safle yn Sir y Fflint eu hystyried gan banel cyn y cafodd argymhelliad ei chynnig i Ysgrifennydd yr Economi,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Rydym yn cydnabod bod teimladau cryf ynghylch y cynnig yma a dyna pam wnaethon ni gymryd camau i’w atal. Ein ffocws yn awr yw gweithio â phobol leol a phartneriaid yn y Fflint, ar ddatblygiadau fydd â’r nod o gynyddu niferoedd ymwelwyr a thyfu economi lleol y pentref – a hynny gyda chefnogaeth y gymuned leol.”