O wefan yr heddlu
Mae enw’r bachgen 17 oed a gafodd ei ladd mewn gwrthdrawiad yn ardal Rhymni ddoe wedi cael ei gyhoeddi.

Yn ôl teulu Jordan Charles, roedd yn fachgen cymdeithasol oedd wedi “byw bywyd i’w eithaf”.

Bu farw’r llanc mewn damwain yn Stryd Moriah, Rhymni, pan drawodd ei gar Peuogeot 2016 yn erbyn car a oedd wedi’i barcio.

Cafodd merch 15 oed, a oedd yn teithio yn yr un cerbyd, ei chludo i Ysbyty’r Tywysog Charles ym Merthyr gydag anafiadau, ond mae hi bellach wedi mynd adre’.

Mae Heddlu Gwent yn parhau i apelio am wybodaeth, gan ofyn i bobol ffonio 101.