LLun Cynulliad CCA2.0
Mae Prif Weinidog Cymru wedi rhybuddio Llywodraeth Prydain i “gallio” tros y trafodaethau Brexit.

Dyw gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb “ddim yn opsiwn”, meddai Carwyn Jones, ac fe fyddai’n amhosib lliniaru effeithiau hynny.

Fe ddywedodd bod rhaid i Lywodraeth Prydain fwrw ati o ddifri i drafod gyda’r Undeb a chytuno ar gyfnod pontio o “ddwy flynedd o leia’”.

Roedd Carwyn Jones yn ymateb ar ôl cyfres o ddatganiadau o Whitehall yn dweud eu bod yn paratoi ar gyfer y posibilrwydd o adael yr Undeb heb gytundeb masnach.

Yr ateb, meddai Prif Weinidog Cymru, oedd mynd ati i drafod er mwyn osgoi methiant, yn hytrach na pharatoi at hynny.

Y Titanic

“Dydy methu â dod i gytundeb ddim yn opsiwn,” meddai. “Byddai’n amhosib lliniaru effeithiau canlyniad mor drychinebus.”

Roedd yn cyhuddo Llywodraeth Prydain “a chefngwyr byrbwyll Brexit” o ymddwyn fel teithwyr ar long y Titanic a opedd yn rhoi eu siacedi achub ymlaen yn hytrach na mynd i ddweud wrth y capten eu bod ar fin taro mynydd iâ.

“Rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ganolbwyntio ar sicrhau safbwynt credadwy ar ein telerau ymadael er mwyn i’r Cyngor Ewropeaidd ym mis Rhagfyr fedru symud y trafodaethau ymlaen i’r ail gam,” meddai.