Ar goll o hyd - Jaymie James (Llun trwy law Heddlu Gwent)
Mae pobol leol wedi dod o hyd i gorff dyn a oedd wedi bod ar goll yn ardal Caerdydd ac mae dyn arall ar goll yn ardal Pontypŵl.

Ychydig cyn 3 y bore heddiw, fe gafodd Heddlu De Cymru eu galw i ardal Coed Lecwydd ar ôl cael gwybodaeth am gorff y dyn – Lee Webb o Dreganna yng Nghaerdydd.

Roedd yr Heddlu wedi bod yn chwilio am y gŵr 28 oed ers dydd Sul, wedi iddyn nhw gael gwybod ei fod ar goll.

Dydyn nhw ddim yn credu bod dim byd amheus am y farwolaeth.

Dyn ar goll yng Ngwent

Yn y cyfamser, mae Heddlu Gwent yn dweud eu bod yn pryderu am ddyn 49 oed sydd wedi bod ar goll ers mwy nag wythnos.

Maen nhw’n apelio am wybodaeth am Jaymie James a gafodd ei weld diwethaf yn ardal Tan y Coed, ger Pontypŵl, brynhawn dydd Sul, Hydref 15.

Y disgrifiad yw: chwe troedfedd o daldra, corff tenau, a gwallt a barf hir, tywyll.

Os oes gan unrhyw un wybodaeth, mae’r Heddlu yn gofyn i bobol ffonio 101.