Llun o wefan y Gwasanaeth Ieuenctid
Fe allai nifer o glybiau ieuenctid yng Ngwynedd orfod cau yn dilyn trafodaethau yn y cyngor heddiw.

Fe fydd cynghorwyr Gwynedd y sir yn trafod ail-drefnu gwasanaeth ieuenctid y sir – ac mae dau o’r pedwar opsiwn o’u blaenau yn golygu cau rhai ohonyn nhw.

Mae clybiau ieuenctid Bangor, Llanrug, Botwnnog a Harlech ymysg y clybiau a allai gael eu heffeithio, ac mae’n bosib y bydd grantiau i fudiadau gwirfoddol hyn y maes yn cael eu diddymu’n llwyr.

Ar hyn o bryd mae Gwasanaeth Ieuenctid yr awdurdod lleol yn gyfrifol am 42 o glybiau ieuenctid sydd yn cael eu cynnal gan 142 o weithwyr.

“Nifer o heriau”

O’r gyllideb o £995,300 ar gyfer Gwasanaeth Ieuenctid y sir, mae £641,570 yn cael ei fuddsoddi mewn clybiau ieuenctid.

Cafodd y gyllideb yma ei thorri £200,000 ym Mawrth 2016 a bellach mae’r gwasanaeth yn wynebu “nifer o heriau” yn ôl y Cyngor.

Yn ôl adolygiad a gafodd ei gynnal rhwng 2015 a 2017 mae’r gwasanaeth wedi bod yn cael trafferth cadw dau pen llinyn ynghyd.

Arolwg

Fe gynhaliodd y  cyngor arolwg ynghynt yn y flwyddyn yn gofyn am farn pobol leol – roedd 98% o’r atebwyr o blaid cynnig ‘cyfleoedd i gymdeithasu’ trwy’r Gwasanaeth.

Fe addawodd y cyngor y byddai’n mynd ati i chwilio am ffyrdd newydd o gynnig y gwasanaethau er mwyn cwrdd a blaenoriaethau’r bobol.