Canser yr ysgyfaint (Llun: James Heilman CCA 3.0)
Mi fydd cyffur newydd, sy’n helpu dioddefwyr canser yr ysgyfaint, ar gael ar y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru cyn hir.

Mae Llywodraeth Cymru wedi llwyddo i ddod i gytundeb â’r cwmni sy’n cynhyrchu nivolumab, sef Bristol-Myers Squibb.

Mae nivolumab yn cael ei ddefnyddio ar gyfer mathau penodol o ganser gan gynnwys celloedd bach datblygedig yr ysgyfaint, ac yn cael ei ddefnyddio hyd yn oed os ydyn nhw wedi cael triniaeth cemotherapi.

Mae hefyd yn cael ei alw yn Opdivo, ac mae disgwyl iddo gyfrannu at ymestyn oes cleifion canser yr ysgyfaint.

Cronfa Triniaethau Newydd

“Rwy’n falch bod y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru wedi gallu dod i gytundeb â’r cynhyrchwr gan olygu y bydd y cyffur ar gael fel mater o drefn yma i gleifion a fydd yn elwa arno,” meddai Vaughan Gething yr Ysgrifennydd Iechyd.

Mae’n esbonio fod y cyffur am gael ei gyflwyno yn sgil lansio’r Gronfa Triniaethau Newydd gwerth £80m ym mis Ionawr eleni i gefnogi mynediad at feddyginiaethau Sefydliad  Cenedlaethol Rhagoriaeth Iechyd a Gofal (NICE) a Grŵp Strategaeth Feddyginiaeth Cymru (AWMSG).

“Mae hyn yn cynnwys triniaethau newydd ar gyfer canser – megis nivolumab – hyd yn oed pan fo argymhelliad NICE yn dibynnu ar gytundeb manwl â’r cynhyrchwr.”