Jodie Whittaker, a fydd yn chwarae Doctor Who (Llun: Anthony Devlin/PA Wire)
Mae cyd-deithwyr newydd Doctor Who wedi cael eu henwi.

Bydd Bradley Walsh, Mandip Gill a Tosin Cole yn ymddangos ochr yn ochr â’r ‘Doctor’ newydd, Jodie Whittaker, yn ystod cyfres newydd y rhaglen yn 2018.

Mae Jodie Whittaker yn olynu’r actor, Peter Capaldi, a hi fydd y ddynes gyntaf erioed i lenwi’r rôl.

Bydd penodiad y comedïwr ac actor, Bradley Walsh, yn ddim syndod i lawer, ond hyd yma does dim llawer o fanylion am ei gymeriad.

Dywedodd Mandip Gill, sydd yn gyfarwydd i rai am ei gwaith ar raglenni Hollyoaks a Casualty, ei bod hi “wrth ei bodd”.

Mae’r actor, Tosin Cole, wedi gweithio ar ffilmiau a rhaglenni gan gynnwys Star Wars ac EastEnders, ac yn dweud ei fod yn edrych ymlaen at “neidio i fydysawd Doctor Who.”