Wynford Ellis Owen
Mae cyn-Brif Weithredwr elusen Stafell Fyw Caerdydd wedi croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i osod isafswm ar bris alcohol.

Yn ôl Wynford Ellis Owen, a sefydlodd yr elusen chwe blynedd yn ôl i helpu pobol wella o ddibyniaeth, mae’r mesur hwn yn “gam cadarnhaol i’r cyfeiriad iawn.”

“O’r diwedd, dw i’n meddwl ein bod ni’n gyffredinol fel cymdeithas wedi dod i sylweddoli’r niwed y mae alcohol yn ei achosi inni fel cymdeithas, ac mi oedd yn rhaid gwneud rhywbeth,” meddai wrth golwg360. 

Potel ychwanegol 

Mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu cyflwyno cyfraith newydd fyddai’n ei gwneud hi’n drosedd i werthu alcohol yn rhatach na 50c am bob uned.

“Mae o’n mynd i wneud gwahaniaeth, er enghraifft, rhwng potel ychwanegol ar y penwythnos, ag o bosib peidio â chael potel ychwanegol,” meddai Wynford Ellis Owen sydd wedi dioddef o ddibyniaeth ar alcohol ei hun.

“Mae o’n sicr yn mynd i wneud gwahaniaeth i’r garfan sy’n cael problemau mawr gyda chamddefnydd o alcohol, felly dw i’n croesawu’r peth yn fawr iawn.”

Mae’n cydnabod na fydd y gyfraith o bosib yn cael effaith ar bobol sy’n gwbl gaeth i alcohol ac yn fodlon gwneud unrhyw beth i’w gael.

“Ond mae hwn yn mynd i gael effaith ar y garfan sydd, heb yn wybod iddyn nhw eu hunain, wedi dechrau yfed dipyn bach mwy nag sydd yn iach iddyn nhw.” 

Caerfyrddin a Chaernarfon

Ers mis Medi mae Wynford Ellis Owen wedi rhoi’r gorau i fod yn Brif Weithredwr Stafell Fyw Caerdydd, ac mae bellach yn gweithio’n rhan amser gyda’r elusen ac yn bwriadu agor cangen yng Nghaerfyrddin a Chaernarfon.

Ers ei sefydlu, mae elusen y Stafell Fyw wedi helpu dros 700 o bobol i ddelio â phob math o ddibyniaethau – o alcohol a chyffuriau i ryw, bwyd, gamblo a hunan-niweidio, gan gynnig yr help drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.