Lloyd Macey (Llun: Cyfrif Twitter Lloyd Macey)
Mae Cymro Cymraeg o’r Rhondda wedi’i ddewis neithiwr i gystadlu yn rowndiau terfynol byw cystadleuaeth The X Factor.

Mi gafodd Lloyd Macey, 23 oed, ei ddewis gan ei fentor Louis Walsh a’r canwr Mika ar ôl canu cân ‘How Far I’ll Go’ o ffilm Disney Moana.

Daw Lloyd Macey o Ynyshir, Cwm Rhondda yn wreiddiol ac mae’n gyn-fyfyriwr ar gwrs BA Perfformio Prifysgol y Drindod Dewi Sant.

Mi fydd sioeau byw The X Factor yn dechrau ar ITV nos Sadwrn (Hydref 28) am 8.20yh.