Cafodd dynes ei hachub brynhawn ddoe ar ôl mynd i drafferthion wrth ddringo’r Wyddfa mewn tywydd garw.

Cafodd hi ei chwythu oddi ar ei thraed gan Storm Brian, a bu’n rhaid i dimau achub o Lanberis fynd i’w chynorthwyo am oddeutu 12.40yp.

Anafodd y ddynes ei ffêr a’i bys ar ôl bod yn dringo, a chymerodd hi bedair awr i dimau achub ei chyrraedd.

Roedd y gwynt wedi cyrraedd cyflymdra o 112 milltir yr awr ar un adeg.

Cafodd hi ei chludo mewn ambiwlans i Ysbyty Gwynedd, Bangor.