Mae tafarn yng Nghaernarfon wedi cadarnhau wrth golwg360 y bu ymladd neithiwr rhwng dwy garfan o aelodau Plaid Cymru.

Cadarnhaodd aelod o staff Bar Bach Caernarfon fod aelodau’r blaid wedi cael eu taflu allan ar ôl dechrau ffrwgwd.

Ond mae adroddiadau cymysg ynghylch pwy oedd yn gyfrifol am ddechrau’r ffeit.

Mae’r dyn sy’n honni ei fod e wedi dioddef ymosodiad wedi dweud wrth golwg360 iddo fynd at yr heddlu i adrodd am y digwyddiad.

Dywedodd nad oedd e wedi cael ei anafu ond ei fod yn awyddus i gofnodi’r digwyddiad gan ei fod e wedi cael ei gyhuddo gan rai o ddechrau’r ffeit, gan ychwanegu fod hynny’n “anwir”.

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Blaid Cymru.

Pan ofynnodd golwg360 am gadarnhad o’r digwyddiad gan Heddlu’r Gogledd, dywedodd llefarydd nad ydyn nhw’n rhoi manylion digwyddiadau unigol.