Mae cynghorydd ifanc yn Rhondda Cynon Taf yn ymgyrchu i wella’r ddarpariaeth o nwyddau glanweithiol i ferched yn ysgolion y sir.

Mae Elyn Stephens, 25, o Blaid Cymru eisiau gweld tamponau a chadachau misglwyf yn cael eu darparu mewn peiriannau yn nhoiledau ysgolion.

Y sefyllfa bresennol

Ar hyn o bryd mae’n dweud bod merched yn yr ardal ddifreintiedig yn colli ysgol pan fyddan nhw ar eu misglwyf am nad ydyn nhw’n gallu fforddio prynu’r nwyddau eu hunain.

Er bod merched yn gallu gofyn am nwyddau glanweithiol, yn aml, mae’n rhaid iddyn nhw fynd at y dderbynfa ac mae hynny’n gallu achosi embaras, meddai Elyn Stephens wrth golwg360.

“Ni wedi rhoi holiaduron mas i gyd i weld beth sydd yna [yn barod] a hefyd pa fath o system yr hoffai myfyrwyr weld yn eu hysgolion nhw.

“Mae’n hollbwysig bod ni’n gwrando ar beth sydd gan y merched yma i’w ddweud. Ni’n gwybod bod merched yn colli ysgol, mae hynny’n eglur iawn.

“Mae bob merch dw i wedi siarad â hi wedi colli ysgol oherwydd hyn. Os nad ydyn nhw’n gallu fforddio nwyddau glanweithiol, dydyn nhw ddim eisiau cael eu hembarasio os yw gwaed yn dod ar eu dillad nhw neu unrhyw beth felly.

“Neu os oes nwyddau ganddyn nhw a bod nhw’n rhedeg mas, mae cymaint o embaras ynglŷn â mynd i dderbynfa’r ysgol sy’n fan hollol gyhoeddus.

“Dyna le mae lot ohonyn nhw’n gorfod mynd er mwyn cael y nwyddau yma, felly does dim urddas i beth sydd yna ar hyn o bryd, does dim byd i waredu stigma o gael misglwyf.

“Mor bwysig â phapur tŷ bach”

“Beth fuaswn i eisiau yn ddelfrydol yw bod ni’n cael peiriannau yn y tai bach, felly mae hwnna’n rhan o’r cynnig gwreiddiol [i’r Cyngor], yw bod ni’n cydnabod bod cael nwyddau glanweithiol mor bwysig â phapur tŷ bach.

“Os ydych chi’n meddwl amdano fe fel yna, mae’n gwneud mwy o synnwyr achos mae cael misglwyf yn rhywbeth hollol naturiol ac ry’n ni’n darparu papur tŷ bach ond nid i [fisglwyfau].

“Ro’n ni’n ffeindio bod neb yn trafod y pwnc ar blatfform lle roeddech chi’n gallu gwneud gwahaniaeth, so pan ges i fy ethol, ro’n i’n sicr bod hwn yn rhywbeth bod fi am ei wneud.

“Fi’n mor falch nawr bod ni’n trafod hwn ar blatfform cyhoeddus a hefyd bod ni’n gwneud ymdrech i glywed gan y merched sy’n cael eu heffeithio mwyaf.

“Mae Rhondda Cynon Taf yn ardal ddifreintiedig, mae’n rhaid i rai teuluoedd gwneud penderfyniad rhwng prynu bwyd a phrynu nwyddau glanweithiol.

“A hefyd, mewn rhai teuluoedd, dyw’r merched ddim yn rheoli faint o arian sy’n mynd mas a ble mae’r arian yn cael ei wario, felly dyw blaenoriaethu teuluol ddim ar hwnna.”

Mae holiaduron ar y mater wedi cael eu dosbarthu i bob merch rhwng blynyddoedd 6 ac 13 yn ysgolion Rhondda Cynon Taf ac mae disgwyl i’r Cyngor eu cael yn ôl erbyn diwedd mis Hydref.