Mae llai o Gymry yn cael eu derbyn i astudio yn nwy o brifysgolion mwyaf elît y Deyrnas Unedig nag ymgeiswyr mewn unrhyw ran arall o wledydd Prydain.

Mae data newydd a gafodd ei gyhoeddi ddydd Gwener yn dangos mai dim ond 2% o’r holl gynigion i Brifysgol Caergrawnt a 3% o gynigion i Brifysgol Oxford a ddaeth gan y Cymry yn 2015.

Er bod nifer y ceisiadau sy’n dod o Gymru yn isel, mae ymgeiswyr o Gymru yn derbyn llawer llai o gynigion o gymharu ag ymgeiswyr eraill o’r Deyrnas Unedig, er eu bod nhw’n ennill graddau TGAU a Lefel A tebyg.

Cafodd 48% o gynigion i astudio yng Nghaergrawnt eu rhoi i ymgeiswyr o Lundain a de-ddwyrain Lloegr.

Roedd y ffigurau gwaethaf i Loegr yn dal i fod yn llawer uwch na’r ganran yng Nghymru, gyda 17% yn cael eu derbyn o ogledd Lloegr a 12% o ganolbarth Lloegr.

Golwg ar ffigurau Cymru

Dim ond pedwar myfyriwr o Ynys Môn a wnaeth gais i Rydychen yn 2015, a doedd dim un yn llwyddiannus.

A rhwng 2010 a 2015 ym Mlaenau Gwent, o’r 24 o geisiadau a ddaeth i astudio yn y prifysgolion hynny, dim ond dau fyfyriwr oedd yn llwyddiannus, un yn 2011 ac un yn 2014.

Yng Ngwynedd, dim ond pump o’r 60 o fyfyrwyr a ymgeisiodd i Rydychen a gafodd le, un o’r ffigurau uchaf yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod nhw’n cydnabod fod “angen i ni wneud mwy i wthio ein myfyrwyr mwyaf abl i gyrraedd eu potensial llawn.”

Yn 2015, fe wnaeth y Llywodraeth sefydlu cynllun Seren i weithio gyda myfyrwyr mwyaf abl Cymru ar lefel TGAU drwy’r chweched dosbarth er mwyn rhoi cymorth iddyn nhw gyrraedd y prifysgolion gorau.

Cafodd y data ei roi drwy gais Rhyddid Gwybodaeth i’r Aelod Seneddol Llafur, David Lammy.