Mae’r Aelod Cynulliad dros Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, yn mynnu nad oes unrhyw her i safle Leanne Wood fel arweinydd Plaid Cymru.

“Does yna neb yn herio Leanne Wood ac yn sicr ddim fi, a dw i’n hyderus iawn o hynny,” meddai mewn podlediad Byd y Bae gyda golwg360 yng nghynhadledd y Blaid.

Roedd yn bendant ei farn y bydd Leanne Wood yn arwain Plaid Cymru i mewn i etholiadau’r Cynulliad yn 2021.

“Os ydy rhywun yn edrych ar pam fyddai hi ddim, dw i ddim wedi gweld rheswm da. Byddaf i ddim yn sefyll yn ei herbyn hi.”

‘Gweledigaeth’ Leanne

Dywedodd fod gan Leanne Wood y weledigaeth i “ennill ymddiriedaeth” pobol Cymru ond y byddai hynny’n “sialens” wrth edrych ymlaen at ymgyrch 2021.

“Mae Leanne yn gredwr cryf mewn gweithredu o’r gwaelod o fyny, ac roedd hynny’n neges gref iawn ganddi hi,” meddai.

“… Y ffordd i ennill ymddiriedaeth bod ni’n profi’r bobol bod ni’n fodlon bod yn weithgar, yn ymroddedig ar lawr gwlad.

“Mae’n amlwg bod hi’n mynd i fod yn sialens i ni rŵan i 2021 i ennill hyder pobol mewn ardaloedd o bosib.”

Gwrandewch ar y sgwrs lawn rhwng Mared Ifan o golwg360 a Rhun ap Iorwerth fan hyn: