Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi gwrthod honiadau yn gysylltiedig â chynlluniau i symud gwasanaethau o uned fasgwlar yn Ysbyty Gwynedd, Bangor.

Hyd yma mae gwleidyddion ac ymgyrchwyr wedi gwrthwynebu cynlluniau’r bwrdd i symud gwasanaethau’r uned i Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan.

Mae’r bwrdd yn nodi y bydd “mwyafrif helaeth” y cleifion yn parhau i gael eu triniaeth yn eu hysbyty lleol, ac mai dim ond 20% o’r holl weithgaredd fasgwlar fydd yn cael ei symud.

“Nid oes gennym unrhyw gynlluniau i symud gwasanaethau fasgwlaidd gofal eilaidd na gwasanaethau arennol cefnogol o Ysbyty Gwynedd,” meddai’r Cyfarwyddwr Meddygol, Evan Moore.

“Ni fydd gwasanaethau dialysis a chefnogaeth fasgwlaidd ar gyfer gwasanaethau dialysis yn cael eu heffeithio gan y buddsoddiad hwn mewn gofal trydyddol.”

Gwrthod honiadau

Gan gyfeirio at brotest cafodd ei chynnal ddydd Iau, mae’r bwrdd wedi gwrthod yr honiad bod dwsin o bobol wedi cymryd rhan – dim ond dau brotestiwr oedd yno meddai llefarydd ar ran y bwrdd.

Hefyd, mae’r llefarydd ar ran y bwrdd wedi gwrthod yr honiad bod y gwasanaethau yn cael eu symud oherwydd dibenion gwleidyddol yn unig.