Bydd tîm pêl-droed Cymru yn chwarae yn erbyn Panama yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar nos Fawrth, Tachwedd 14, gyda’r gic gyntaf am 7.45 yr hwyr.

Dyma fydd y gêm ryngwladol gyntaf rhwng y ddwy wlad a daw wedi i Banama lwyddo i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd am y tro cyntaf erioed.

Cyn y gêm gyfeillgar gartref i Panama, fe fydd Cymru yn teithio i Baris i herio Ffrainc ar nos Wener, Tachwedd 10.