Mae disgwyl i ‘fom tywydd’ daro Cymru dros y penwythnos wrth i Storm Brian ymlwybro ar draws gwledydd Prydain.

Y darogan yw y bydd gwyntoedd cryfion 70 milltir yr awr a thros ddwy fodfedd o law yn disgyn wrth i orllewin Cymru gael eu taro.

Mae dynion tywydd yn rhybuddio y gallai tai gael eu taro gan lifogydd, ac yn dweud y dylwn ddisgwyl toriadau pŵer ynghyd â phroblemau trafnidiaeth.

Hefyd, mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyflwyno rhybudd tywydd melyn ar hyd llawer o arfordir Prydain, ac mi fydd mewn grym rhwng pedwar y bore a 11.59 yr hwyr yfory.

Mae’n debyg bod ‘bomiau tywydd’ yn cael eu hachosi pan mai gwyntoedd cryfion yn uchel fyny yn yr atmosffer yn gwrthdaro gydag aer gwasgedd isel.