Nia Ceidiog
Mae Nia Ceidiog yn adnabyddus i nifer am ei gwaith cyflwyno a chynhyrchu, ond ddydd Sul mi fydd hi’n arddangos ei chyhyrau mewn cystadleuaeth yn Birmingham.

Bydd y nain 63 blwydd yn un o 300 o ‘lunwyr corff’ – bodybuilders –  eraill yn nigwyddiad yr Xplosive Ape Grand Prix.

Mae Nia Ceidiog yn dweud na fu yn or-hoff o gystadlu yn y gorffennol, a bod ei diddordeb newydd wedi cyd-daro ag awydd i fod yn “iach ac yn ffit”.

“Wnes i gael fy hun yn iach ac yn ffit rhyw wyth blynedd yn ôl. Roeddwn wedi bod yn gadael i fy hun fynd braidd,” meddai wrth golwg360.

“Ar ôl cyfnod o wyth mlynedd o ymarfer cyson a bwyta’n iach … ro’n i’n chwilio am rywbeth i gymryd rhan ynddo fo. Bues i erioed yn sporty yn ysgol, felly roedd yna apêl fawr mewn camp oedd ddim yn chwaraeon tîm.

“Roeddwn i jest eisiau cymryd rhan mewn rhywbeth. Felly mi awgrymodd ffrind body-building a wnes i ddechrau edrych i mewn iddo fo tua dwy flynedd yn ôl.”

Rhaglen ddogfen

Ers hynny mae’r diddordeb wedi troi yn angerddol, a Nia Ceidiog wedi ffilmio rhaglen am ei phrofiadau.

Roedd y broses o ffilmio Dim Ond Rhif – fydd yn cael ei ddarlledu ar S4C ym mis Ionawr – yn “sialens fawr” meddai Nia Ceidiog.

“Dw i wedi bod yn onest ac yn agored iawn yn y [rhaglen] ddogfen. Achos mae hi wedi bod yn daith anodd ar brydiau. Dw i wedi bod i nifer o lefydd reit dywyll yn fy meddwl ar hyd y ffordd.

“Ac yn gorfforol wrth gwrs, mae wedi bod yn sialens fawr iawn…

“Dw i’n gobeithio mai neges bositif fydd yn dod allan ohoni, a dw i yn gobeithio bod y rhaglen yn ateb y cwestiwn a’r dywediad mai dim ond rhif ydy oedran.”