Nigel Flynn (Llun Heddlu Gwent)
Mae’r heddlu yn gofyn am gymorth i ddod o hyd i Nigel Flynn sy’n 30 oed.

Meddai Heddlu Gwent: “Gan na ymddangosodd Nigel gerbron y llys, mae warant dim mechnïaeth bellach wedi’i gyhoeddi a chaiff ei alw yn ôl i’r carchar.

“Hoffem siarad ag ef hefyd ynglŷn â throseddau sy’n ymwneud â dwyn a bwrgleriaeth.

“Gwelwyd Nigel ar y Stryd Fawr, Rhymni am tua 3.45pm ddydd Mercher, Hydref 18, 2017.”