Ysbyty Gwynedd, Bangor
Mae ymgyrchwyr wedi cynnal protest yn erbyn cynlluniau i symud yr uned fasgwlar o Ysbyty Gwynedd, Bangor – gyda rhai’n dweud y bydd pobol yn marw os y bydd yn rhaid iddyn nhw deithio i Glan Clwyd.

Tra bo uchel swyddogion Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn cyfarfod yn Venue Cymru, Llandudno, heddiw, fe ddaeth dwsinau o bobol – yn cynnwys cleifion – ynghyd y tu allan i’r ganolfan gynadleddau i wrthdystio.

Nod y bwrdd iechyd ydi symud y gwasanaeth o’i safle presennol yn Ward Dulas Ysbyty Gwynedd, i Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan, 30 milltir i lawr ffordd yr A55.

Mae gwrthwynebwyr yn dweud mai oherwydd dibenion gwleidyddol yn unig y mae hyn, ac mai’r bwriad ydi symud uned sy’n cael ei chydnabod ymhlith y goreuon yn y byd, i ysbyty sydd wedi cael ei beirniadu’n hallt ar sawl cownt yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Fe fyddai codi statws Ysbyty Glan Clwyd, ar draul Ysbyty Gwynedd, yn gallu bod yn gam allweddol yn y frwydr etholiadol tros sedd Dyffryn Clwyd, lle mae pethau’n dynn iawn rhwng Llafur a’r Ceidwadwyr.

Mae’r Aelodau Cynulliad Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth a Siân Gwenllian eisoes wedi ysgrifennu at y bwrdd yn gofyn iddyn nhw “ailfeddwl” y cynlluniau, ac fe gafodd y mater ei godi gan Aelod Seneddol Arfon, Hywel Williams, yn ystod sesiwn holi’r Prif Weinidog yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Mercher diwethaf (Hydref 11).

“Faswn i ddim yma heddiw…”

Yn ôl un claf, Wil Russell Owen, sydd yn ymweld â’r uned ym Mangor bob pythefnos, mae yna “deimladau cryf yn erbyn y symud”. Mae’n ddiolchgar i’r uned, meddai, ac yn mynnu y byddai wedi marw heb y driniaeth y mae wedi ei derbyn yno.

“I rywun sy’n byw ym Mhen Llŷn, Aberdaron neu Tudweiliog, mae Bangor yn ddigon pell – heb sôn am symud i Fodelwyddan,” meddai wrth golwg360. “Pam bod isio ei symud o? I be? A hwnnw’n gweithio…

“Heblaw am Ward Dulas, faswn i ddim yma heddiw, dw i ddim yn meddwl,” meddai Wil Russell Owen wedyn. “Faswn i wedi colli fy nghoes, yn saff. Yn ôl bob golwg, mi faswn i wedi colli fy mywyd hefyd.

“Ond digwydd bod, ges i apwyntiad i fynd yna yn sydyn, es i mewn am hanner awr yn y theatr, ac mi fues i yno am dri mis wedyn yn gwella.”