Tân ym Meithrinfa y Dyfodol (Llun oddi ar Facebook)
Bydd meithrinfa yn ardal Llanbedr Pont Steffan ar gau am gyfnod, wedi i dân ddifrodi’r adeilad yn ystod oriau mân y bore.
Cafodd criw o ddiffoddwyr tân eu galw i Feithrinfa y Dyfodol ym mhentref Cellan am 7.17yb fore heddiw.
Roedd y tân yn nho’r adeilad wedi’i ddiffodd erbyn 8.09yb, a chafodd neb ei anafu.
Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn mynd ati yn awr i gynnal ymchwiliad i achos y tân.
“Noson ofnadwy”
“Cafodd ein meithrinfa ei ddifrodi yn ystod oriau mân y bore,” meddai cynrychiolydd y feithrinfa mewn datganiad ar Facebook.
“O ganlyniad i hynny byddwn ar gau am ychydig ddyddiau wrth i ni drefnu lleoliad newydd. Byddwn yn cysylltu â phawb yfory gyda diweddariad. Ymddiheuriadau. Mae hi wedi bod yn noson ofnadwy.”