Kirsty Williams (Llun: Cynulliad Cenedlaethol Cymru)
Mae Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi na fydd ffioedd dysgu prifysgolion yng Nghymru yn codi uwchlaw £9,000.

Mae hyn yn golygu y bydd gweinidogion yn cefnu ar gynlluniau i gysylltu ffioedd dysgu â chwyddiant fyddai wedi arwain at yr uchafswm yn codi i £9,295 yn 2018.

Bydd yr uchafswm yng Nghymru felly, yn parhau’n is na’r ffioedd yn Lloegr a Gogledd Iwerddon lle mae’n rhaid i fyfyrwyr o’r Deyrnas Unedig dalu £9,250. 

Yn ogystal â hyn i gyd mi fydd trothwy ad-dalu benthyciadau yn cynyddu gan olygu na fydd yn rhaid i raddedigion dalu eu benthyciadau yn ôl tan eu bod yn ennill cyflog £25,000 y flwyddyn.

“Ystyriaeth ofalus”

“Ar sail yr hinsawdd wleidyddol yn Lloegr, rwy wedi rhoi ystyriaeth ofalus i’n cynlluniau ar gyfer y dyfodol mewn perthynas â lefelau’r ffioedd dysgu,” meddai’r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams.

“Yn sgil ymgynghori â’n Prifysgolion ac Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, bydd uchafswm y ffi dysgu yn parhau i fod yn £9,000.”

Cymeradwyaeth

“Rwyf wrth fy modd y bydd Llywodraeth Cymru yn cadw’r uchafswm ar ffioedd dysgu yn £9,000 ac ni fydd yn bwrw ati i gysylltu ffioedd dysgu i chwyddiant,” meddai Llywydd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru, Ellen Jones.

“Byddai gwneud hynny wedi achosi ansicrwydd a phryder i fyfyrwyr o’r cefndiroedd lleiaf breintiedig, ac rwy’n cymeradwyo Kirsty Williams am fod ar ochr myfyrwyr.”