Mae un o benaethiaid mudiad sy’n rhoi cymorth i bobol ifanc sy’n ddigartref neu heb waith wedi croesawu galwad un o bwyllgorau’r Cynulliad i greu strategaeth dlodi i Gymru.

Yn ôl y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, mae angen strategaeth dlodi ar gyfer Cymru gyfan a hynny wedi i’r cynllun ‘Cymunedau’n gyntaf’ ddod i ben y llynedd.

“Byddwn i’n croesawu unrhyw fath o strategaeth fwy effeithiol sydd wedi’i ffocysu ar helpu pobol,” meddai Gethin Evans, Pennaeth Datblygu Gisda sy’n fudiad yn y gogledd i helpu pobol ifanc.

Mae’n esbonio fod Gisda wedi’i sefydlu yn 1985 i ymateb i ofynion 11 o bobol ifanc yn Arfon oedd angen gwasanaeth o’r fath, a’r llynedd roedden nhw’n helpu tua 270 o bobol ifanc.

“Am ba bynnag rheswm mae yna fwy o alw am ein gwasanaeth ni nag erioed, a dydy pethau ddim i’w gweld yn lleihau, ond yn mynd yn fwy dwys,” meddai wrth golwg360.

“Mae angen buddsoddi mwy o arian i helpu pobol ifanc fregus.”

Strategaeth dlodi

Mi gyhoeddodd Carl Sargeant y llynedd, Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant, ei fod am ddod â’r cynllun ‘Cymunedau’n Gyntaf’ i ben yn raddol.

Mae’r cynllun wedi cynorthwyo pobol mewn 52 o ardaloedd difreintiedig yng Nghymru am 15 mlynedd, ond mae’r Ysgrifennydd am ganolbwyntio ar ffyrdd “trawsbynciol” i fynd i’r afael â thlodi.

Er hyn, “ni ddiflannodd tlodi pan benderfynwyd dod â Chymunedau yn Gyntaf i ben,” meddai John Griffiths AC a chadeirydd y pwyllgor.

“Mae’r pwyllgor hwn yn glir bod angen strategaeth dlodi fanwl i helpu’r rhai sy’n cael bywyd yn anodd yng Nghymru,” meddai.

Mae’n ychwanegu eu bod am ystyried y polisïau’n ymwneud â thlodi yn ystod tymor y Cynulliad er mwyn “monitro cynnydd y Llywodraeth.”

Tlodi

Yn ôl ffigurau’r pwyllgor, mae tua 700,000 o bobol yng Nghymru yn byw mewn tlodi.

Mae hyn yn cynnwys 30% o blant, sy’n fwy na’r ganran yng ngwledydd Prydain.