Rosemarie Harris (Llun Cyngor Powys)
Mae arweinydd presennol Cyngor Powys wedi derbyn casgliadau adroddiad damniol am wasanaethau plant y sir.

Ac, ar ôl cydnabod adroddiad yr Arolygiaeth Gofal, mae Rosemearie Harris wedi ymddiheuro i bobol a gafodd eu heffeithio.

“Rydym yn llwyr dderbyn argymhellion y rheoleiddwyr,” meddai Arweinydd Cyngor Powys, Rosemarie Harris.

“Mae eu hadroddiad yn ddiflewyn ar dafod ac yn heriol. Mae’n ddrwg gennym i ni fethu cwrdd â’r safonau uchel y mae ein trigolion yn eu haeddu ac yn ymddiheuro am ein diffygion.

“Mae’r cyngor yn benderfynol o ddiogelu plant y sir, a byddaf yn arwain ar ymateb y cyngor i argymhellion yr arolygiad fel mater o flaenoriaeth ac yn sicrhau bod yr adnoddau mewn lle fel sylfaen i’r gwaith hwn.”

  • Mae gan y cyngor 90 niwrnod i ymateb neu wynebu’r gweld y gwasanaethau’n dod dan adain Llywodraeth Cymru.