Llandudno - peryg colli gweithwyr gwerthfawr (Nigel Swales CCA2.0)
Fe fydd cynhadledd ddiwedd y mis yn ceisio dod o hyd i ffyrdd o fynd i’r afael ag argyfwng staffio posib yn y diwydiant croeso ar ôl Brexit.

Ac mae cynrychiolydd busnesau yn nhref wyliau glan-môr fwya’ Cymru wedi cadarnhau wrth Golwg360 y gallai gwestai yno wynebu problemau mawr heb weithwyr o weddill yr Undeb Ewropeaidd.

“Fe fyddai’n golygu gwaith caled i gael pobol yn eu lle,” meddai Nathan Cousins o Siambr Fasnach Llandudno, lle mae’r nifer mwya’ o welyau gwyliau yng Nghymru.

“Os bydd rhaid llenwi’r swyddi gyda phobol o’r Deyrnas Unedig, fe fydd hynny’n fwy anodd byth.”

Dwy gynhadledd i wynebu’r broblem

Mae’r gynhadledd yng Nghaerdydd yn un o ddwy sy’n cael ei threfnu gan Bwyd a Diod Cymru, y corff ar y cyd rhwng y Llywodraeth, byd addysg a’r diwydiant.

Mae’n cael ei galw oherwydd y peryg o “ddiffyg sgiliau” yn y maes wedi Brexit – y nod, meddai’r trefnwyr, yw sicrhau “llif cyson o sgiliau  a gweithwyr i’r dyfodol”.

Fe fydd y gynhadledd gynta’n ceisio mesur maint y broblem a’r ail yn chwilio am atebion gan gynnwys y posibilrwydd o Strategaeth Sgiliau ar gyfer y diwydiant.

Canran uchel o’r Undeb

Yn ôl Nathan Cousins, sy’n swyddog cysylltiadau cyhoeddus gyda Gwesty St George’s, un o’r mwya’ yn Llandudno, mae pobol o rannau eraill o’r Undeb Ewropeaidd wedi gwneud llawer i gynnal y diwydiant croeso yn y gorffennol.

Roedd yn amcangyfri’ bod tua 30% o weithwyr gwesty’r St George’s yn dod o’r Undeb Ewropeaidd, gyda gweithwyr o wledydd fel Lithwania a Gwlad Pwyl yn gwneud llawer o’r gwaith glanhau a gweini yn y bwytai.

“Fyddwn i’n dychmygu bod y canrannau rywbeth yn debyg mewn gwestai eraill yn Llandudno,” meddai Natha Cousins. “Mae’n mynd i fod yn eitha uchel.

“Mae’n siŵr y bydd rhai ohonyn nhw’n cael aros … ond ddim am amser hir.”