Llun: Vauxhall
Mae un o Aelodau Seneddol gogledd ddwyrain Cymru wedi galw am lais i Ysgrifennydd Economi Llywodraeth Cymru yn y trafodaethau am ddyfodol swyddi cwmni Vauxhall.

Mae wedi dod i’r amlwg fod cwmni Vauxhall yn bwriadu gwaredu â 400 o swyddi o’u ffatri yn Ellesmere Port yn Sir Gaer lle mae tua 1,800 o bobol yn gweithio yno.

Ond mae David Hanson, Aelod Seneddol Delyn, yn poeni am effaith hyn ar ei etholaeth gyda “mwy na 450 o bobol sy’n gweithio yn Ellesmere Port yn byw ar ochr Cymru o’r ffin, dim ond 12 milltir i ffwrdd.”

Am hynny, mae’n galw am gadarnhad a fydd lle i Lywodraeth Cymru yn y trafodaethau.

Marchnad ‘heriol’

Mae cwmni ceir Vauxhall wedi cyhoeddi fod rhaglen diswyddiadau gwirfoddol yn ei le ganddyn nhw, a’u bod yn cyflawni’r toriadau o ganlyniad i “farchnad Ewropeaidd heriol.”

Wrth ymateb i ymholiad David Hanson mi ddywedodd Claire Perry, Gweinidog Gwladol Busnes, Ynni a Diwydiant Llywodraeth Prydain y bydd y “gweinyddiaethau datganoledig yn cael eu lle” yn y trafodaethau.

Mae’r cwmni wedi galw hefyd am eglurdeb o ran aelodaeth o’r farchnad sengl ac economi heb dariff wedi i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae golwg360 wedi gofyn am sylw gan Lywodraeth Cymru.