Cors Caron, Tregaron (Llun - Cyfoeth Naturiol Cymru)
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi derbyn £4 miliwn i wella saith o gynefinoedd prin, mawnogydd a chorsydd yng Nghymru – gyda’r gwaith yn dechrau’r wythnos hon.

Mae’r rhain yn cynnwys Cors Caron ger Tregaron a Chors Fochno yng ngogledd Ceredigion ynghyd â safleoedd ger Trawsfynydd, Abergwaun, Crosshands, Crughywel a Llanfair-ym-muallt.

Fe fyddan nhw’n cynnal gwaith i wella’r systemau draeniad a chyflwyno pori ysgafn gan nodi fod “canrifoedd o dorri mawn a thorri ffosydd wedi eu dirywio.”

“I rai, nid yw corsydd yn ddim mwy na thirwedd foel ac anial,” meddai Emyr Roberts, Prif Weithredwr CNC.

“Ond, mewn gwirionedd, y gwrthwyneb sy’n wir. Gall cors iach gynnig buddion mawr i fywyd gwyllt a phobol.”

‘Cynllun uchelgeisiol’

Mae Emyr Roberts yn esbonio fod corsydd yn cynnig lloches i anifeiliaid a phlanhigion a hefyd yn storfa garbon sy’n lleihau effeithiau newid hinsawdd.

Mae disgwyl i’r prosiect bara pedair blynedd ac mae wedi’i ariannu gan gynllun EU LIFE a CNC, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

“Bydd y cynllun uchelgeisiol yn arddangos y buddion hirdymor a ddaw yn sgil adfer mawndir – rhai amgylcheddol, economaidd, a chymdeithasol,” meddai Lesley Griffiths, yr Ysgrifennydd Amgylchedd a Materion Gwledig.

‘Mawndiroedd pwysicaf Ewrop’

Mae’n esbonio fod y cynllun yn cyd-fynd â ‘Chynllun Adfer Natur’ Llywodraeth Cymru ynghyd â’u hymroddiad i les cenedlaethau’r dyfodol.

“Rydym wedi ymroi i reoli holl fawndir Cymru, a’u cynefinoedd cefnogol, mewn modd cynaliadwy erbyn 2020, gan sefydlu rhaglen integredig er mwyn sicrhau ein bod yn llwyddo i wneud hynny.”

Ychwanegodd y bydd y prosiect yn canolbwyntio ar tua 690ha o fawndir a’u bod ymysg y “mawndiroedd pwysicaf yn Ewrop.”