Sian Edwards (Llun: Prifysgol Caerdydd)
Mae darlithydd Astudiaethau Sbaenaidd ym Mhrifysgol Caerdydd yn nodi fod Arweinydd Catalwnia mewn “sefyllfa anodd” wrth wynebu pwysau o’r naill du.

Mae Prif Weinidog Sbaen, Mariano Rajoy, wedi dweud fod gan Gatalwnia tan ddydd Iau (Hydref 19) i gyhoeddi eu hannibyniaeth yn swyddogol.

Ond mewn llythyr ddydd Llun (Hydref 16) fe alwodd Carles Puigdemont am fwy o drafodaethau gyda Sbaen am hyd at ddeufis.

‘Pwysau o sawl cyfeiriad’

“Mae’n ceisio cadw’r ddysgl yn wastad trwy ddangos i un ochr ei fod o blaid annibyniaeth, ond ei fod hefyd yn gweld bod y sefyllfa mor anodd ac ansicr ar y funud ei fod eisiau amser i drafod,” meddai Siân Edwards wrth golwg360.

 

“Mae’n sefyllfa anodd, ac mae ’na bwysau arno o sawl cyfeiriad o fewn gwleidyddiaeth Catalwnia ei hun, ac mae ’na bleidiau sy’n galw arno i fod yn llawer mwy eglur o blaid annibyniaeth, a phwysau o’r ochr arall arno iddo fod yn gymedrol,” meddai.

‘Sefyllfa ddyrys’

Mae Llywodraeth Sbaen wedi dweud fod gan Gatalwnia tan ddydd Iau i gyhoeddi eu hannibyniaeth ac, yn ôl Siân Edwards, does dim posib gwybod beth fydd yn digwydd os na fyddan nhw’n gwneud hynny.

“Ond, ar sail beth sydd wedi digwydd yn barod byddwn i’n dychmygu y bydd achosion cyfreithiol yn dod yn erbyn unigolion, gwleidyddion Catalwnia a sefydliadau sifig, a byddwn i’n disgwyl hefyd bod Llywodraeth Sbaen yn dechrau cymryd mesuriadau i ymyrryd yn swyddogaethau Llywodraeth Catalwnia,” meddai.

“Mae’n ymwybodol ei fod mewn sefyllfa ddyrys,” meddai wrth gyfeirio at Carles Puigdemont.

 

Cefndir

Mi’r oedd Carles Puigdemont wedi cael tan ddydd Llun (Hydref 16) i ddatgan annibyniaeth yn swyddogol, wedi iddo ddweud yr wythnos diwethaf fod angen mwy o amser i gynnal trafodaethau.

Daw hyn ar ôl i 90% o bleidleiswyr fynegi eu dymuniad i adael Sbaen mewn refferendwm ar 1 Hydref.