Mae Gwylwyr y Glannau yn rhybuddio pobl i beidio gwylio'r tonnau mawr ar hyd yr arfordir Llun: PA
Mae trydydd person bellach wedi marw wrth i wyntoedd cryfion  Storm Ophelia daro rhannau helaeth o Iwerddon a’r Deyrnas Unedig.

Bu farw dynes yn ei 50au yn ne ddwyrain Waterford yn Iwerddon ar ôl i goeden ddisgyn ar ei char wrth iddi yrru ym mhentref Aglish yn ne’r wlad y bore yma.

A bu farw dyn yn ei 30au mewn damwain gyda llif wrth iddo geisio symud coeden oedd wedi cwympo yn Cahir, Co Tipperary. Yn Ravensdale, Dundalk, fe syrthiodd goeden ar gar gan ladd dyn oedd yn teithio ynddo.

Mae miloedd o gartrefi heb gyflenwad trydan, ysgolion wedi cau’n gynnar, pontydd ynghau a choed wedi disgyn ar ffyrdd.

Yn ôl Western Power Distribution mae o leiaf 4,180 o gartrefi heb gyflenwad trydan yng nghanolbarth a de-orllewin Cymru.

Yn Sir Gaerfyrddin mae 1,435 o gartrefi heb gyflenwad trydan, 1,108  yng Ngheredigion, 1,383 ym Mhowys, 197 yn Sir Benfro a 57 ym Mro Morgannwg.

Effaith ar drafnidiaeth

Mae Pont Britannia ar yr A55 wedi’i chau yn gyfan gwbl erbyn hyn.

Hefyd, mae cyfyngiadau ar Bont Cleddau yn Sir Benfro a rhybudd am lifogydd yn yr ardal.

Mae Heddlu’r Gogledd yn cynghori pobl yng Ngwynedd a Môn i beidio teithio oni bai ei fod yn gwbl angenrheidiol gan eu bod yn derbyn nifer o adroddiadau am goed yn disgyn a teils yn cwympo oddi ar doeau.

Mae teithiau fferi Irish Ferries a Stena Line rhwng Cymru ac Iwerddon eisoes wedi’u canslo.

Ym maes awyr Caerdydd mae 12 o hediadau i mewn ac allan o’r maes awyr wedi’u canslo ac ym Manceinion mae 20 o hediadau wedi cael eu canslo oherwydd y storm.

Ysgolion Cymru

Yng Nghymru, mae rhybuddion oren mewn grym ac roedd nifer o ysgolion wedi cyhoeddi eu bod nhw’n cau’n gynnar. Cafodd pob ysgol yn Sir Benfro eu cau ac roedd Cyngor Mon wedi cynghori pob ysgol i gau erbyn amser cinio. Yng Ngheredigion roedd nifer o ysgolion hefyd wedi cau.

Mae Prifysgol Bangor wedi canslo darlithoedd a chyfarfodydd o 2yp ymlaen.