Tafarn Sinc (Llun: Gwefan Cymdeithas Tafarn Sinc)
Mae’r fenter gymunedol i brynu tafarn yng ngogledd Sir Benfro gam yn nes wrth iddyn nhw hysbysebu am ddau berson i reoli’r dafarn.

Bwriad ‘Cymdeithas Tafarn Sinc’ oedd codi mwy na £300,000 drwy gyfranddaliadau gan y gymuned, ac maen nhw’n bwriadu cwblhau’r pryniant “o fewn pythefnos,” yn ôl Hefin Wyn, Cadeirydd dros dro’r fenter.

Fe fyddan nhw’n datgelu’r camau nesaf mewn cyfarfod cyhoeddus yn Neuadd Maenclochog am 7.30yh heno (nos Lun, 16 Hydref).

Rheolwyr

“Rydyn ni ar fin ei brynu,” meddai Hefin Wyn wrth golwg360 gan ddweud eu bod wrthi’n dod i gytundeb â’r perchnogion presennol, ac yn gobeithio cwblhau’r pryniant o fewn pythefnos.

Yn y cyfamser, mae’r grŵp yn hysbysebu am “reolwyr” neu “gwpwl” i redeg y dafarn o ddydd i ddydd.

“Mae wedi ein taro ni fod angen dau berson [i reoli’r dafarn],” meddai Hefin Wyn gan esbonio y byddan nhw’n cynnig llety a “chyflog cystadleuol.”

Mae’n nodi fod y gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol, yn ogystal â phrofiad arlwyo a rhedeg tafarn.

Cefndir

Ym mis Ionawr eleni, datgelodd golwg360 fod perchnogion Tafarn Sinc yn Rhosybwlch am werthu’r dafarn ar ôl bod wrth y llyw am 25 mlynedd.

Roedden nhw’n gofyn am £295,000 drwy’r cwmni arwerthu Sidney Phillips ac aeth y grŵp ati i gasglu cyfranddaliadau gan y gymuned, gyda’r actor Rhys Ifans yn un a gyfrannodd at hynny.