Lesley Griffiths AC (Llun o'i gwefan)
Fe fydd ymgynghoriad yn agor ddydd Llun ar wahardd gweithgynhyrchu a gwerthu cynhyrchion cosmetig a gofal personol sy’n cynnwys microbelenni plastig.

Bwriad Llywodraeth Cymru yw cyflwyno gwaharddiad trwy is-ddeddfwriaeth Cymru ar 30 Mehefin 2018, gyda’r Llywodraeth yn gweithio gydag Adrannau Safonau Masnach cynghorau lleol fel yr awdurdod gorfodi perthnasol.

Dywedodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:

“Mae sbwriel yn un o’r problemau mwyaf sy’n wynebu ein moroedd. Rwy’n falch ein bod ninnau, ynghyd â gweddill Prydain, yn cymryd camau cadarnhaol i leihau’r deunydd plastig sy’n mynd i’n moroedd.

“Er nad ydym yn meddwl bod pob gweithgynhyrchwr yng Nghymru yn defnyddio microbelenni yn helaeth, diben yr ymgynghoriad hwn yw sicrhau nad yw deddfwriaeth yn rhoi busnesau Cymru dan anfantais mewn unrhyw ffordd. Bydd hefyd yn codi ymwybyddiaeth ynghylch y mater.

“Credaf fod y dyddiad a gynigir ar gyfer cyflwyno’r gwaharddiad yn synhwyrol gan ei fod yn rhoi digon o amser i fusnesau baratoi ar ei gyfer. Mae hefyd yn sicrhau bod gennym amserlen realistig ar gyfer drafftio a chyflwyno deddfwriaeth addas.

“Mae’r gwaharddiad hwn yn rhan o becyn o fesurau yr ydym yn eu hystyried i leihau gwastraff ac i fynd i’r afael â’r niwed a achosir gan lygredd plastig.”