Ashley Williams (llun:CBDC)
Mae Fifa wedi penderfynu peidio â chymryd camau yn erbyn Robbie Brady, aelod o garfan pêl-droed Gweriniaeth Iwerddon, yn sgil gwrthdrawiad tybiedig a ddigwyddodd rhyngddo ac Ashley Williams.

Penderfynodd y corff llywodraethol rhynwladol gynnal ymchwiliad ar ôl gweld lluniau ar y teledu o ben y Gwyddel yn taro’n erbyn cefn Ashley Williams yn ystod y 61fed munud o’r gêm nos Lun.

Mae hyn yn golygu bod gan Robbie Brady bellach yr hawl i chwarae fel aelod o’r garfan yn y gemau ailgyfle ym mis Tachwedd, wrth i Weriniaeth Iwerddon wynebu naill ai’r Swistir, yr Eidal, Croatia neu Denmarc.

Bydd carfan Gogledd Iwerddon yn ymuno â nhw hefyd, gyda’r ddau’n ceisio sicrhau lle ym Mhencampwriaeth Cwpan y Byd yn Rwsia y flwyddyn nesaf.