Llys y Goron Abertawe
Mae dyn wedi ei ganfod yn euog o ladd ei gariad o flaen ei merch 22 mis oed yn Llanelli.

Ym mis Ebrill fe drywanodd Dylan Harries, 22, ei gariad achlysurol Katrina Evemy, 19, yn ei phen, ei gwddf a’i chorff.

Er iddo honni iddo ddarganfod y fam ifanc mewn pwll o waed, fe gafodd ei ganfod yn euog a bydd yn cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Abertawe ddydd Llun.