Mae Llywodraeth Prydain yn dweud ei bod yn hyderus y gallan nhw ddod i gytundeb â Llywodraeth Cymru ar gamau nesaf y Mesur Brexit yn dilyn cyfarfod gyda Carwyn Jones a Mark Drakeford.

Ddydd Mercher, fe aeth Prif Weinidog Cymru a’r Ysgrifennydd dros Gyllid, sydd hefyd yn gyfrifol am Brexit, i San Steffan i gynnal trafodaethau gyda’r Dirprwy Brif Weinidog, Damian Green ac Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns.

Yn ôl Llywodraeth Cymru fe wnaeth Carwyn Jones “osod rhesymeg glir” yn egluro pam ei fod yn gwrthwynebu’r mesur i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.

“Mae’r gweinyddiaethau’n weddol gytûn ynghylch nod y ddeddfwriaeth hon yn y pen draw – sicrwydd, parhad ar gyfer busnesau a marchnad sengl sy’n gweithio’n esmwyth o fewn y Deyrnas Unedig,” meddai llefarydd.

“Roedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cydnabod bod angen cydweithio i gyflawni’r nod hwn.

“Yn amlwg, nid oes fawr o ddisgwyl i’r Mesur oroesi yn ei ffurf bresennol ar ei daith drwy’r Senedd, ac rydym yn parhau i obeithio y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dod i gefnogi’r newidiadau gofynnol.”

Gwelliannau Cymru a’r Alban

Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban eisoes wedi cyhoeddi eu gwelliannau i’r mesur ac wedi dweud nad fyddan nhw’n cefnogi’r ddeddfwriaeth os nad yw eu dymuniadau’n cael eu gweithredu.

“Mae Brexit yn golygu bod angen ailfeddwl yn sylfaenol am y ffordd y mae pedair gwlad y Deyrnas Unedig yn cydweithio, ac rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i ddarparu atebion cadarnhaol a dyfeisgar i’r heriau o’n blaen,” meddai Llywodraeth Cymru wedyn.

“Rydym am weld mwy o barodrwydd o gyfeiriad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i’n helpu gyda’r ymdrech honno.”

Mwy o gyfarfodydd

Mae’n debyg bod Llywodraeth Prydain hefyd wedi rhoi ymrwymiad i gynnal cyfarfodydd mwy rheolaidd o’r Cyd-bwyllgor Gweinidogion – fforwm rhwng llywodraethau gwledydd Prydain i drafod gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Bydd y cyfarfod nesaf yn digwydd ddydd Llun.

Disgrifiodd Damian Green y cyfarfod fel un “adeiladol” a’i fod yn hyderus y gall y ddwy lywodraeth “gytuno ar y camau nesaf.”

Dywedodd eu bod wedi trafod “gwneud y broses Brexit i weithio’n ymarferol wrth gadw’r setliad datganoli”.

“Byddwn yn cwrdd eto yn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion ddydd Llun, lle dw i’n gobeithio y byddwn yn cymryd camau sylweddol ar gytuno’r egwyddorion o wneud y Meaur Ymadarl i weithio i bawb yn y Deyrnas Unedig.”