Mawnogydd wedi'u hadfer ger Rhyd-ddu yn Eryri (Llun Parc Cenedlaethol Eryri)
Fe allai cynllun newydd ym mawnogydd Cymru gynnig dyfodol newydd i diroedd o’r fath trwy fanteisio ar arian sylweddol gan gwmnïau masnachol.
Yn ogystal â gwneud gwaith ymarferol i warchod y cynefinoedd gwerthfawr, fe fydd y prosiect yn ceisio rhoi gwerth arnyn nhw er mwyn manteisio ar gynlluniau sy’n talu i wneud iawn am ddefnydd o garbon.
Fe allai hynny arwain at gytundebau tymor hir gyda chwmnïau masnachol i roi arian at gynnal y mawnogydd, sy’n storio carbon, yn arafu llif dŵr o’r mynyddoedd ac yn gallu helpu i atal llifogydd.
O ddangos faint o garbon y gallan nhw ei warchod a beth yw gwerth hynny, fe fydd cwmnïau’n gallu rhoi arian tuag at y cynllun i wneud iawn am eu defnydd nhwthau o garbon.
Cynllun sy’n arloesi
“Dyma fydd yr unig gynllun o’i fath yng ngwledydd Prydain ac, efallai, yn Ewrop gyfan,” meddai Rhys Owen, Pennaeth Amaeth a Chadwraeth Parc Cenedlaethol Eryri, wrth golwg360.
“Mae pawb wedi bod yn gwneud pethau gwahanol mewn ffyrdd gwahanol a’n bwriad ni ydi cysoni be sy’n cael ei fesur a chreu cronfa ddata gynhwysfawr ar gyfer Cymru.
“Fyddwn ni’n gallu dweud faint o garbon sydd yn y mawnogydd a faint all gael ei gloi i mewn yn yr hir dymor.”
Y cefndir
Mae gan Cymru ganran cymharol uchel o dir mawnog – tua 170,000 erw – a hwnnw mewn rhai mannau gymaint ag wyth metr o ddyfnder.
Os bydd mawnogydd yn sychu, bydd lefelau uchel o garbon yn cael eu gollwng i’r amgylchedd – nod y cynllun yw eu cadw’n wlyb ac mor naturiol â phosib.
Parc Cenedlaethol Eryri yw un o bedwar corff sy’n rhan o’r cynllun, a fydd yn gweithredu tros Gymru gyfan, ac sydd wedi cael £1 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru.