Mark Drakeford Llun: Senedd.tv
Mae Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford, wedi cyhoeddi y bydd cynghorau yn derbyn toriad 0.5% yn y cyllid maen nhw’n ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf.

Bydd awdurdodau lleol hefyd yn derbyn toriad o 1.5% yn ystod y flwyddyn olynol.

Bydd pob cyngor yn derbyn toriad rhwng 2018-2019 gan eithrio cyngor mwyaf Cymru sef Cyngor Caerdydd – mi fyddan nhw’n derbyn codiad 0.2%.

Awdurdodau lleol Sir Fynwy, Merthyr Tudful, Blaenau Gwent, Caerffili, Powys a Chonwy fydd yn derbyn y toriad mwyaf – toriad o 1%.

“Setliad anodd”

“Bydd setliad y flwyddyn nesaf yn anodd – rydyn ni wedi gwneud pob dim y gallwn ni i sicrhau y bydd modd ymdopi oddi tano,” meddai Mark Drakeford.

“Rhaid i gynghorau ddefnyddio’r amser hwn nawr i gynllunio, er mwyn sicrhau bod cyllid yn cael ei roi i’r gwasanaethau a’r bobl sydd fwyaf ei angen.”

Hefyd dywedodd Mark Drakeford y byddai’r gronfa ar gyfer ysgolion yn codi i £62 miliwn tra bydd cronfa gofal cymdeithasol yn cynyddu i £42 miliwn.

Mae’r penderfyniad i gynyddu cronfeydd  y gwasanaethau yma yn golygu y bydd llai o gyllid ar gael ar gyfer gwasanaethau eraill gan gynnwys llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden.

“Sefyllfa anghynaladwy”

“Y broblem i lywodraeth leol yw’r ymosod cyson ar wasanaethau lleol,” meddai’r Cynghorydd Cyngor Casnewydd ac Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLLC), Debbie Wilcox.

“Mae gwasanaethau yn cael eu gwasgu hyd yr eithaf ac mae’r cyhoedd yn iawn i deimlo’n fwyfwy rhwystredig wrth dalu mwy o dreth cyngor ac eto’n gweld gwasanaethau cymunedol allweddol yn cael eu torri neu yn cau.”

“Mae’r holl sefyllfa yn anghynaladwy. Ni ellir disgwyl i awdurdodau lleol barhau i wneud toriadau mor ddwfn a pharhau i ddarparu’r un ehangder a safon o wasanaeth; yn syml, bydd yn rhaid i rywbeth ddioddef.”

“Gwleidyddiaeth lem”

“Unwaith eto, dyma setliad anodd iawn i gynghorau Cymru,” meddai llefarydd Plaid Cymru dros Lywodraeth Leol, yr Aelod Cynulliad, Siân Gwenllian.

“Parhad yw hyn o wleidyddiaeth lem Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig. Ac, mae’n golygu bydd toriadau i wasanaethau ac mi fydd pobol ledled Cymru yn dioddef yn ei sgil.”