Matthew Scully Hicks Llun: PA
Mae gŵr hyfforddwr ffitrwydd, sydd wedi’i gyhuddo o lofruddio’r ferch roedden nhw wedi’i mabwysiadu, wedi dweud wrth y llys bod eu cartref “yn llawn cariad a hapusrwydd”.

Mae Matthew Scully-Hicks, 31, wedi’i gyhuddo o achosi cyfres o anafiadau difrifol i Elsie Scully-Hicks, 18 mis oed, cyn iddi farw ym mis Mai 2016.

Roedd wedi mabwysiadu Elsie gyda’i ŵr, Craig Scully-Hicks, bythefnos yn unig cyn iddi farw ond roedd hi wedi byw gyda’r cwpl ers mis Medi 2015.

Mae Matthew Scully-Hicks yn gwadu llofruddio Elsie yng nghartref y cwpl yn Llandaf, Caerdydd.

Dywedodd Craig Scully-Hicks wrth y rheithgor yn Llys y Goron Caerdydd nad oedd “erioed” wedi gweld Matthew Scully-Hicks yn cosbi Elsie yn gorfforol nac yn gweiddi arni.

“Roedd fy nghartref yn llawn cariad a hapusrwydd. Drwy’r amser. Taswn i wedi amau rhywbeth byddwn i ddim wedi ei ganiatáu,” meddai.

Gwaedlif

Cafodd y Gwasanaeth Ambiwlans eu galw i gartref y cwpl yng Nghaerdydd am 6.20yh ar 25 Mai. Pan gyrhaeddodd parafeddygon nid oedd Elsie yn anadlu a chafodd ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru lle bu farw ar 29 Mai.

Roedd profion yn yr ysbyty wedi darganfod bod y ferch fach wedi dioddef o waedlif ar bob ochr o’i phenglog a hefyd wedi torri nifer o esgyrn, gan gynnwys ei hasennau, ei choes a’i phenglog.

Clywodd y llys bod yr heddlu wedi darganfod negeseuon gan Matthew Scully-Hicks y maen nhw’n honni sy’n awgrymu ei fod wedi “cael trafferth ymdopi” wrth ofalu am Elsie a’i sibling, sydd hefyd wedi’i fabwysiadu.

Mae’r erlyniad hefyd yn honni bod cymdogion wedi clywed Matthew Scully-Hicks yn gweiddi ar Elsie pan oedd hi’n crio.

Roedd Matthew Scully-Hicks wedi rhoi’r gorau i weithio llawn amser er mwyn gofalu am y plant tra bod ei ŵr yn gweithio llawn amser.

Dywedodd Craig Scully-Hicks, a oedd yn treulio dau neu dri diwrnod i ffwrdd o’r cartref gyda’i waith, nad oedd erioed wedi clywed Matthew Scully-Hicks yn gweiddi ar Elsie.

Mae’r achos yn parhau.