Mae’r heddlu wedi cyhoeddi enw cwpl y cafwyd hyd iddyn nhw’n farw mewn tŷ yn Sir Fynwy.

Cafodd cyrff Jane Sergeant, 70, a Richard Sergeant, 71, eu darganfod yn ystod oriau mân y bore ar Hydref 4 yn eu cartref ym Mhwllmeurig ger Cas-gwent.

Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal gan Heddlu Gwent.

Er hynny, nid yw’r heddlu’n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r marwolaethau.