Gareth Owen, Cyfarwyddwr Dyngarol Achub y Plant (Llun: Achub y Plant)
Mae un o gyfarwyddwyr dyngarol elusen Achub y Plant yn dweud fod angen codi mwy o arian i wella’r ymateb i’r argyfwng yn nhalaith Rakhine ar hyn o bryd.

Dros yr wythnosau diwethaf mae dros hanner miliwn o ffoaduriaid, y rhan fwyaf yn Fwslimiaid Rohingya, wedi ffoi’r trais yn nhalaith Rakhine ym Myanmar gan ffoi i Fangladesh.

Ac yn ôl Gareth Owen, Cyfarwyddwr Dyngarol y Deyrnas Unedig ar gyfer Achub y Plant, “mae’r effeithiau a’r adroddiadau yno’n frawychus iawn.”

Esboniodd fod mwy na hanner y ffoaduriaid yn blant, a bod un ymhob deg yn ferched beichiog neu’n famau newydd ac yn lletya mewn llochesi dros dro.

‘Argyfwng mawr’

“Yr argyfwng mawr ar hyn o bryd yw argyfwng Rakhine ac rydyn ni’n bryderus iawn am yr hyn sy’n digwydd yno,” meddai Gareth Owen wrth golwg360.

“Dydy Llywodraeth Bangladesh ddim wedi profi argyfwng o’r math hwn o’r blaen. Maen nhw wedi gweld trychinebau naturiol, ond nid un fel hyn lle mae miloedd ar filoedd o ffoaduriaid yn ffoi i’r wlad. Mae’r awdurdodau a phobol ym Mangladesh yn gwneud gwaith da, ond mae’r ymateb yn arafach nag y gallai fod, ac mae angen codi mwy o arian a chodi ymwybyddiaeth am y peth,” meddai wedyn.

Ychwanegodd fod pryder am effeithiau “tymor hir” y ffoi gyda pherygl i bobol ddatblygu clefydau difrifol fel colera a niwmonia.

Mae Gareth Owen wedi gweithio gydag elusen Achub y Plant am fwy na phymtheg mlynedd gan deithio i bob cwr o’r byd, ond mae ei wreiddiau’n ddwfn yn ardal Dolanog ym Mhowys lle cafodd ei eni.

Esboniodd ei fod yn gweld “cysylltiad uniongyrchol” rhwng y gwaith o godi arian ar lefel gymunedol â’r gwahaniaeth y maen ei gael ar fywydau pobol sy’n byw mewn argyfyngau o’r fath.

‘Cefnogaeth ryngwladol’

Mae elusen Achub y Plant yn rhan ac apêl gafodd ei lansio’r wythnos diwethaf gan y Pwyllgor Argyfwng Trchinebau (Disaster Emergenyc Comittee DEC).

Un sydd wedi cefnogi’r apêl yw Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, ac mae’n dweud fod angen “cefnogaeth ryngwladol i leddfu’r amodau difrifol” wrth i bobol ffoi o Myanmar.

“O ganlyniad i’r trais mae dros hanner miliwn o bobol yn byw mewn gwersylloedd ym Mangladesh” a “dyma un o’r symudiadau cyflymaf o bobol yn ddiweddar,” meddai wedyn.