Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi cadarnhau eu bod wedi dod o hyd i gorff dynes wedi tân mewn tŷ ym Mlaenau Ffestiniog.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw am 8.30yh nos Lun (Hydref 9) i’r tŷ yn Nhrem y Benar gyda chriwiau tân o Borthmadog a Blaenau Ffestiniog yn ceisio diffodd y tân am dair awr.

Dywed yr heddlu bod dynes oedrannus yn byw yn y tŷ a bu farw yn y fan a’r lle er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys. Mae ei theulu wedi cael gwybod.

Nid yw hi wedi cael ei hadnabod yn ffurfiol hyd yn hyn.

Mae’r Gwasanaeth Tân wedi cadarnhau fod ymchwiliad yn cael ei gynnal ond nid ydyn nhw’n trin y tân fel un amheus ar hyn o bryd.

Maen nhw’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i ffonio’r heddlu ar 101.