Matthew Scully Hicks Llun: PA
Mae achos dyn 31 oed, sydd wedi’i gyhuddo o lofruddio’r ferch fach roedd wedi’i mabwysiadu, wedi dechrau yn Llys y Goron Caerdydd.

Mae Matthew Scully-Hicks yn gwadu llofruddio Elsie Scully-Hicks, a oedd yn 18 mis oed, ym mis Mai y llynedd.

Clywodd y llys bod yr hyfforddwr ffitrwydd rhan amser o Delabole, yng Nghernyw wedi mabwysiadu Elsie Scully-Hicks gyda’i bartner, Craig Scully-Hicks, bythefnos yn unig cyn iddi farw.

Roedd hi wedi bod yn byw gyda’r cwpl ers mis Medi 2015 cyn cael ei mabwysiadu ganddyn nhw ym mis Mai 2016.

Mae’r erlyniad yn honni bod Matthew Scully-Hicks wedi cam-drin ac ymosod ar Elsie Scully-Hicks sawl gwaith yn ystod y misoedd cyn iddi farw, gan achosi anafiadau difrifol.

Cafodd y Gwasanaeth Ambiwlans eu galw i gartref y cwpl yng Nghaerdydd am 6.20yh ar 25 Mai. Cafodd y ferch fach ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru lle bu farw ar 29 Mai.

Mae disgwyl i’r achos bara tua phedair wythnos.