Llun: PA
Mae Comisiynydd Plant Cymru wedi galw am ymestyn y cynllun gofal plant am ddim i rieni nad sy’n gweithio er mwyn cau’r bwlch cyrhaeddiad ymysg plant.

Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig 30 awr o ofal plant am ddim am 48 wythnos y flwyddyn i rieni sy’n gweithio ac sydd â phlant tair a phedair oed.

Ond mae Sally Holland, y Comisiynydd Plant, am weld y cynllun hwnnw’n ymestyn at rieni nad sy’n gweithio hefyd.

Yn ei hadroddiad blynyddol mae’n nodi fod datblygiad plant o gefndiroedd tlotach deng mis y tu ôl i blant o gefndiroedd cyfoethocach pan maen nhw’n dair oed – a byddai sicrhau’r un gwasanaeth gofal plant yn lleihau’r bwlch hwnnw.

‘Mentrus’

“Rwy’n sylweddoli fy mod i’n gofyn am rywbeth mentrus yma gan y Llywodraeth, gan fy mod i’n eithriadol ymwybodol ein bod ni’n byw mewn oes pan fo pob ceiniog yn cyfri,” meddai Sally Holland.

“Ond rwy’n credu y dylai’r Llywodraeth ail-feddwl ei chynnig gofal plant ac ystyried yr effeithiau tymor-hir y polisi yma ar y plant sydd angen y gefnogaeth fwyaf.

“Mae yna dystiolaeth glir bod buddsoddi mewn addysg blynyddoedd cynnar a gofal plant ansawdd uchel yn gwneud gwahaniaeth arwyddocaol i gyfleoedd bywyd rheiny sy’n dod o gefndiroedd tlawd ac yn hyrwyddo symudedd cymdeithasol.

“Mae e hefyd yn arbed arian yn yr hirdymor gan fod y rheiny sy’n derbyn cymorth yn gynnar yn mynd ymlaen i gyfrannu mwy i gymdeithas ac yn dibynnu ar lai o wasanaethau,” ychwanegodd.

Gwaith – ‘ffordd orau allan o dlodi’

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn croesawu sylwadau’r Comisiynydd ond yn ychwanegu mai “gwaith ydy’r ffordd orau allan o dlodi, a’r amddiffynfa gorau rhagddo.”

“Byddwn yn ei astudio’n fanwl gan ymateb mewn da bryd,” meddai’r llefarydd am yr adroddiad.

“Mae ein cynnig Gofal Plant wedi’i ddylunio i waredu â’r rhwystr mawr i waith, ac i fynd i’r afael â thlodi mewn gwaith drwy leihau’r costau o fynd i’r gwaith.”

Dywedodd hefyd fod cynlluniau Llywodraeth Cymru wedi’u dylunio i “helpu rhieni i gwrdd â chostau gofal plant gan hefyd ennill y sgiliau a’r profiad i ddod o hyd i waith.”