Fe fydd rhaglen henebion boblogaidd y BBC,
Flog It yn ymweld â’r Hen Goleg yn Aberystwyth ar Hydref 19.

Mae aelodau’r cyhoedd wedi’u gwahodd i ddiwrnod prisio arbennig, ac i ddod â thair heneb neu gasgliad y gall fod diddordeb ganddyn nhw i’w gwerthu.

Bydd eitemau’n cael eu hasesu cyn i arbenigwyr benderfynu a fydd yr eitemau’n cael mynd ymlaen i arwerthiant yng Nghaerfyrddin ar Dachwedd 8.

Ffilmio

Bydd y BBC yn ffilmio pedwar rhifyn o’r sioe sy’n cynnwys yr Hen Goleg a byddan nhw’n cael eu darlledu yn y deunaw mis nesaf. 

Bydd yr arbenigwyr Christina Trevanion, Raj Bisram a David Harper yn ymuno â’r cyflwynydd Paul Martin ar gyfer y diwrnod prisio.

Bydd BBC Flog yn yr Hen Goleg, Aberystwyth rhwng 9.30yb a 4.00yp ar Hydref 19.

Bydd yr eitemau sy’n cael eu dewis ar gyfer ffilmio yn ystod y diwrnod prisio yn mynd o dan y morthwyl yn Peter Francis Auctions ar Dachwedd 8.

‘Croeso cynnes’

Dywedodd cyflwynydd y rhaglen, Paul Martin: “Mae’n wych o beth bod Flog It yn dod i Aberystwyth; Rydw i mor falch o gael cyfle i rannu’r rhan hardd hon o Gymru gyda’n gwylwyr.

“Rydym bob amser yn derbyn croeso cynnes ac rwy’n gobeithio y bydd digon o bobol yn bachu ar y cyfle i ddod â’u heitemau i’w dangos i ni.”

Ychwanegodd Dirprwy Is-Ganghellor, Iaith Gymraeg a Diwylliant, ac Ymgysylltu Allanol, Prifysgol Aberystwyth, Dr Rhodri Llwyd Morgan: “Mae’r Hen Goleg yn adeilad sy’n cael ei drysori’n lleol ac yn cael ei gydnabod fel un o ddarnau pensaernïol Gothig mwyaf arwyddocaol y DU.

“Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri wedi neilltuo mwy na £10 miliwn i helpu i’w drawsnewid yn ganolfan dreftadaeth a diwylliannol fywiog.

“Rydym wrth ein bodd fod tîm Flog It yn dod atom ac rydym yn edrych ymlaen at gynnig croeso cynnes i ymwelwyr.

“Dyma gyfle perffaith i gynulleidfa eang gael mwynhau’r adeilad rhyfeddol hwn a’i hanes diddorol.”