Mae Heddlu Gwent wedi apelio am wybodaeth yn dilyn adroddiadau bod gyrrwr wedi ceisio denu merch 11 oed i’w gar yn Nhretomas.

Roedd y ferch yn cerdded ar hyd Ffordd Llanfabon am oddeutu 6pm nos Fercher pan aeth gyrrwr car coch ati a gofyn iddi fynd i’r car.

Rhedodd y ferch at ei ffrindiau cyn ffonio’i rhieni.

Ni chafodd y ferch ei hanafu yn ystod y digwyddiad. 

Mae’r heddlu’n awyddus i ddod o hyd i yrrwr y car, sy’n cael ei ddisgrifio fel dyn yn ei 40au neu 50au, a chanddo wallt sy’n britho. Mae e o gorffolaeth fawr. 

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.