Fe fydd noson wobrwyo BAFTA Cymru yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd heno.

Cafodd yr enwebiadau eu cyhoeddi ar Fedi 28 ac yn eu plith mae’r awdur Abi Morgan, sy’n derbyn Gwobr Siân Phillips.

Mae’n derbyn y wobr, sydd wedi’i noddi gan Pinewood, fel Cymraes sydd wedi gwneud cyfraniad arwyddocaol i wneud ffilmiau nodwedd a theledu rhyngwladol.

Ymhlith enillwyr y wobr hon yn y gorffennol mae’r artist colur Siân Grigg, y cyfarwyddwr Euros Lyn, yr actor Rhys Ifans, yr awdur Russell T Davies, yr actor Michael Sheen, yr actor Ioan Gruffudd, yr awdur/actores/cynhyrchydd Ruth Jones, yr actor Rob Brydon, yr actor Matthew Rhys, yr actor Robert Pugh, y cynhyrchydd Julie Gardner a’r newyddiadurwr Jeremy Bowen. 

Yn derbyn Gwobr Arbennig BAFTA Cymru am Gyfraniad Eithriadol i Ffilm a Theledu heno fydd yr actor a chynhyrchydd John Rhys Davies, sy’n adnabyddus fel y cymeriad Gimli yn Lord of the Rings a chymar Indiana Jones, Sallah.

Mae e wedi ymddangos mewn mwy na 150 o sioeau teledu a ffilmiau ers y 1970au cynnar. 

‘Cydnabod doniau’

Mewn datganiad, dywedodd Cyfarwyddwr BAFTA Cymru, Hannah Raybould: “Mae Pwyllgor BAFTA Cymru yn cydnabod doniau Abi Morgan a’i chyfraniad enfawr at amrywiaeth eang o ffilmiau a rhaglenni teledu, gan gynnwys The Iron Lady gyda Meryl Streep fel Margaret Thatcher a Shame, a ysgrifennwyd gyda Steve McQueen. 

“Enillodd ei gwaith ar The Iron Lady enwebiad BAFTA iddi am Sgript Ffilm Wreiddiol Orau, ac enillodd ei gwaith ar Shame enwebiad BAFTA iddi am Ffilm Brydeinig Eithriadol. Aeth ymlaen i ysgrifennu The Invisible Woman ar gyfer BBC Films, gyda Ralph Fiennes yn cyfarwyddo ac yn chwarae’r brif ran, a Suffragette ar gyfer Film4 yn 2015. Enillodd Emmy yn 2013 am y ddrama  ystafell newyddion wedi’i gosod yn y 1950au, The Hour.

“Rydym hefyd yn edrych ymlaen yn fawr at ddathlu gyrfa helaeth a chyfraniad parhaus yr actor sydd wedi derbyn enwebiad Emmy, John Rhys Davies yn ystod y seremoni, gan edrych yn ôl ar ei waith o 1964 i’r presennol.”

Ymhlith y rhai eraill sydd wedi’u henwebu am wobrau mae Carys Eleri, Eiry Thomas, Kimberley Nixon, Mali Jones (y Wobr Actores); Dyfan Dwyfor, Jack Parry Jones a Mark Lewis Jones (y Wobr Actor), yn ogystal â’r awduron Fflur Dafydd ac Owen Sheers.

Bydd y parti ar ôl y seremoni yn cael ei gynnal yng ngwesty Radisson Blu yn y brifddinas.

Bydd modd gwylio’r seremoni’n fyw ar dudalen Facebook BAFTA Cymru, a bydd digwyddiad arbennig yn y bar Cymreig Sunken Hundred yn Efrog Newydd, lle bydd Matthew Rhys ymhlith y gwesteion.

Mae modd gweld yr enwebiadau’n llawn ar wefan BAFTA Cymru.