Mae Eisteddfod yr Urdd 2018 wedi cael ei chyhoeddi’n swyddogol yn Aberhonddu heddiw.

Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal ar faes Sioe Llanelwedd fis Mai y flwyddyn nesaf, y tro cyntaf iddi ddod i Frycheiniog a Maesyfed ers 1978.

Cafodd gorymdaith ei chynnal o Ysgol Uwchradd Aberhonddu am 11.30yb, yng nghwmni rhai o gyflwynwyr Cyw ar S4C.

Fe fydd adloniant yn y dref gydol y prynhawn, gan gynnwys cerddoriaeth gan Bromas Band Tref Aberhonddu, ac adloniant gan Martyn Geraint.

‘Estyn croeso’

Cyn y digwyddiad, dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Stephen Mason y byddai’r diwrnod yn gyfle i “estyn croeso” i bobol o bob cwr o Gymru i’r dref.

“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu pawb i Aberhonddu fel rhan o’r Ŵyl Gyhoeddi ar y 7fed o Hydref,” meddai.

“Mae pob ysgol yn yr ardal wedi eu gwahodd i ymuno yn yr hwyl ac mae’n gyfle i ni drigolion lleol – yn blant, pobl ifanc, rhieni, athrawon a busnesau – i estyn croeso i weddill Cymru ac i dynnu sylw trigolion Aberhonddu a’r cylch fod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn ymweld â Brycheiniog a Maesyfed y flwyddyn nesa’.”

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd, Aled Siôn: “Mae’n argoeli i fod yn ddiwrnod gwerth chweil ac rydym yn ddiolchgar iawn i’r bobl leol am eu cefnogaeth a’u brwdfrydedd dros ddyfodiad Eisteddfod yr Urdd i’r ardal.

“Rydym yn hynod o ddiolchgar am gymorth y Cyngor Sir, y Pwyllgor Gwaith, y cynghorau, mudiadau a’r sefydliadau lleol wrth i ni ddathlu a pharatoi ar gyfer cynnal yr ŵyl yn y sir.”