Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi agor drysau eu siop gyntaf yng nghanol dinas Abertawe.

Cafodd ei hagor yn swyddogol y bore ma gan un o hoelion wyth y clwb, Alan Curtis.

Mae’r siop wedi’i hagor ar hen safle siop Rowberry ar Stryd Union ger canolfan siopa’r Quadrant a Marchnad Abertawe.

Mae’r siop yn gwerthu holl nwyddau swyddogol y tîm ac yn cynnig cyfle i gefnogwyr chwarae gemau rhyngweithiol a phrynu tocynnau ar gyfer gemau a lletygarwch.

Wrth i’r siop gael ei hagor yn swyddogol, roedd gorsaf radio Sain Abertawe a The Wave yn darlledu’n fyw o’r safle, ac roedd y cyn-ymosodwr Lee Trundle a’r diddanwr lleol Kevin Johns yn bresennol.

Mae gan y clwb siopau y tu allan i’r ddinas yn Stadiwm Liberty ac ar y we, ond mae’r safle yn Debenham’s yng Nghwmdu bellach wedi cau.